P-06-1313 Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Suzanne Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 1,750 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Bydd y Cymdeithasau Masnach sy'n cynrychioli busnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru (Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Changen PASC UK yng Nghymru) yn cwrdd â Llywodraeth Cymru â'r bwriad o gytuno ar fesurau lliniaru i leihau'r niwed yn sgil cyflwyno'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i fusnesau hunanddarpar dilys sy'n eiddo i bobl yng Nghymru. Nid ail gartrefi na llety achlysurol yw'r rhain. Mae dros 30 y cant o'r busnesau hyn wedi dweud y bydd yn rhaid iddynt gau neu gael eu gwerthu heb yr eithriadau hyn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Y corff o dystiolaeth am y niwed: https://www.pascuk.co.uk/wales-182-days-reports/

PRIF OFYNION

- Peidio â dechrau cyfri’r diwrnodau o 22 Ebrill, h.y. yn ôl-weithredol.

- Proses apelio

EITHRIADAU

- Llety sy’n destun cyfyngiadau drwy’r broses caniatâd cynllunio

- Llety sydd o fewn cwrtil prif breswylfa

- Gadael i unedau lluosog ar un safle nodi’r cyfartaledd ar gyfer deiliadaeth ar draws yr holl unedau.

- Os nad yw'r unedau yn stoc dai a dynnwyd oddi ar y farchnad ond y gellir profi drwy gofnodion cynllunio a rheoli adeiladu y cawsant eu creu o adeiladau masnachol neu amaethyddol gwag neu arallgyfeirio ar ffermydd.

- Os yw’r eiddo'n cael ei redeg gan elusen

- Dylai wythnosau a roddir gan berchnogion i elusennau gyfrif tuag at ddiwrnodau dan ddeiliadaeth.

- Os yw eich busnes llety tymor byr yn destun TAW

- Adolygu’r 182 diwrnod os bydd dirwasgiad swyddogol yng Nghymru, pandemig neu os gorfodir safleoedd i gau yn lleol.

- Cyfnod gras i fusnesau newydd

HEPGORIADAU

Ystyried nifer y diwrnodau a gymerir i wneud atgyweiriadau/gwelliannau i eiddo neu gyfnodau o salwch neu gyfrifoldebau gofalu

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Sir Drefaldwyn

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru